Croeso i Swoosh! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

Gwybodaeth » Chwaraeon a Hamdden » Chwaraeon Awyr Agored » Pêl-Rwyd

  • Mae pêl–rwyd yn cael ei chwarae ar gwrt caled gyda hŵps ar y ddau ben a phêl i’w thaflu, sy’n eithaf mawr, ond ychydig yn llai na phêl–fasged neu bêl–droed
  • Mae’n cael ei chwarae gan ddau dïm o saith chwaraewr
  • Mae pêl–rwyd yn cael ei chwarae’n bennaf gan fenywod, er bod timau dynion a chymysg yn dod yn fwyfwy poblogaidd
  • Nod y gamp yw sgorio trwy saethu’r bêl i mewn i un o’r hŵps
  • Y tïm sy’n sgorio’r nifer mwyaf o goliau ar ddiwedd y gêm sy’n ennill
  • Mae cwrt pêl–rwyd wedi’i rhannu’n ddau draean
  • Mae hanner cylch ar bob pen o’r cwrt, ac o’r hanner cylch hwnnw mae’n rhaid sgorio saethiadau
  • Mae’r traeanau’n dangos lle y gall chwaraewyr ym mhob tïm symud
  • Mae’r rheolau’n llym ac mae chwaraewyr yn cael eu cosbi os ydyn nhw’n symud y tu allan i’w man penodedig
  • Dyw rheolau pêl–rwyd ddim yn caniatáu i chwaraewyr gymryd mwy nag un cam tra bod y bêl yn eu meddiant. Os yw rhywun yn taflu’r bêl atoch, rhaid i chi beidio â symud, er y gallwch droi (gan gadw un troed yn yr unfan) er mwyn dewis rhywun i daflu’r bêl ato
  • Ni all y chwaraewr ddal y bêl gan un chwaraewr am fwy na thri eiliad
  • Ni allwch fownsio’r bêl
  • Yr unig ffordd i symud y bêl tuag at y gôl yw ei thaflu i aelod arall o’ch tïm
  • Gall y chwaraewyr eraill redeg o gwmpas i safleoedd gwell tra bod y bêl gennych yn eich dwylo
  • Mae pêl–rwyd yn gamp ddi–gyffyrddiad
  • Mae hyn ei gwneud yn anodd amddiffyn – rhaid i chwaraewyr fod o leiaf dair troedfedd i ffwrdd i amddiffyn
  • Os yw rhywun yn cyffwrdd â chwaraewr, rhoddir y bêl i’r tïm arall
  • Gall dynion a menywod gystadlu yn erbyn ei gilydd yn deg oherwydd nad yw rheolau’r gêm yn caniatáu i gryfder dynion fod yn fantais, er y gall taldra dynion fod yn fantais gyda safle saethu goliau
  • Gallwch gymryd rhan mewn pêl–rwyd yn eich ysgol neu’ch clwb lleol – cysylltwch â’ch canolfan chwaraeon leol am fwy o wybodaeth

A wyddoch chi...?

  • Pêl–rwyd yw’r gamp fwyaf poblogaidd i fenywod yng Nghymru, o ran niferoedd y bobl sy’n chwarae
  • Timau pêl–rwyd gorau’r byd yw Awstralia a Seland Newydd

Rhywbeth i ddweud?

Rhaid bod wedi mewngofnodi i bostio sylwadau ar y wefan hon

Mewngofnodi neu Cofrestru.

Cymerwch ychydig o funudau i gwblhau'r arolwg hon. Bydd hyn yn helpu ni i ffeindio allan sut yr ydych chi'n defnyddio'r wefan fel ein bod ni'n gallu dal ati i'w gwella ar eich cyfer chi.