Gwybodaeth » Chwaraeon a Hamdden » Chwaraeon Awyr Agored » Pêl-Droed
- Pêl–droed yw gêm fwyaf poblogaidd Prydain Fawr, a gweddill y byd hefyd
- Dau dïm sy’n chwarae’r gêm gyda phêl ar faes chwarae gwair siâp petryal (cae pêl–droed) gyda physt gôl ar y naill ochr a’r llall
- Ceir 11 o chwaraewyr mewn tïm ar lefel hŷn a saith o chwaraewyr ar lefel iau (mae’r niferoedd yn newid ar lefel dan 11 oed)
- Rhaid i’r tïm weithio gyda’i gilydd i sgorio goliau yn erbyn eu gwrthwynebwyr trwy basio’r bêl rhwng y chwaraewyr
- Y blwch cosbi yw’r tir o amgylch y pyst gôl
- Heblaw’r gôl–geidwaid, ni all y chwaraewyr ddefnyddio eu dwylo na’u breichiau i arwain y bêl yn ystod y chwaraeon cyffredinol. Dim ond yn y blwch cosbi all y gôl–geidwaid gafael yn y bêl
- Mewn tïm pêl–droed ceir cefnwyr, canolwyr a saethwyr. Nod y cefnwyr yw ceisio atal y gwrthwynebwyr rhag sgorio goliau. Mae’r canolwyr yn datblygu ymosodiad y tïm trwy basio i’r saethwyr, ac maen nhw hefyd yn helpu’r cefnwyr trwy rwystro’r gwrthwynebwyr cyn iddynt fynd yn agos at y gôl. Prif nod y saethwyr yw sgorio goliau
- Gall unrhyw un ar dïm pêl–droed sgorio, gan gynnwys y gôl–geidwad
- Hyd gêm pêl–droed broffesiynol yw 90 gyda hanner amser ar ôl 45 munud
- Y tïm sy’n ennill yw’r un â’r nifer fwyaf o goliau ar ddiwedd y gêm
- Os bydd chwaraewr yn ffowlio yn y blwch cosbi, mae’r gwrthwynebwyr yn ennill cic gosb – yna mae’r rheolwr neu’r capten yn dewis chwaraewr a fydd yn cymryd y gig gosb
- O fewn pêl–droed proffesiynol, mae rheolwr y tïm yn debygol o eilyddio chwaraewyr trwy gydol gêm. Golyga hyn y bydd e/hi yn tynnu chwaraewyr allan o’r gêm ac yn rhoi eilyddion, sy’n eistedd ar fainc yr eilyddion, yn eu lle
- Gall chwaraewyr sy’n torri’r rheolau neu’n droseddi yn ystod gêm dderbyn cerdyn melyn neu goch gan y dyfarnwr. Mae cerdyn melyn yn rhybudd ac mae cerdyn coch yn golygu bod y chwaraewyr yn cael ei ’ anfon o’r cae’ – ni allant chwarae yn y gêm ragor. Nid oes hawl gan reolwyr eilyddio chwaraewyr sydd wedi’u hanfon oddi ar y cae
- Mae’n bosib chwarae pêl–droed unrhyw le lle mae ardal agored, fel mewn gardd neu mewn parc
- Mae tïm pêl–droed gan y rhan fwyaf o ysgolion y gallwch chwarae ynddynt. Mae clybiau pêl–droed ar gyfer pob grŵp oedran o tua saith oed ymlaen gan drefi, pentrefi a dinasoedd
- Mae ysgolion yn cystadlu yn erbyn ei gilydd mewn gemau cyfeillgar a hefyd mewn twrnameintiau ysgol
- Mae cynghreiriau pêl–droed ar wahân ar gyfer timau trefi a thimau dinasoedd
- Mae pêl–droed menywod yn fwyfwy poblogaidd a chyffredin
- Hyd at 11 oed, gall merched a bechgyn chwarae ar yr un tïm pêl–droed
- Mae pêl–droedwyr 11 oed neu’n hŷn yn chwarae mewn timau un–rhyw
- Mae pêl–droedwyr proffesiynol yn chwarae dros glwb pêl–droed dinas ac, os ydynt yn ddigon da, dros dïm pêl–droed cenedlaethol eu gwlad
Pêl–droed Prydain
- Enw cynghrair pêl–droed Prydain yw’r Premiership – dyma gynghrair mwyaf cyfoethog y byd. Fe’i helwir yn Premier League hefyd
- Mae sawl chwaraewr o Gymru yn chwarae yn y cynghrair hwn
- Mae 20 o dimau yn y Premiership
- Mae’r 20 tïm yn chwarae yn erbyn pob tïm arall ddwywaith yn ystod y tymor, yn ennill 3 phwynt am ennill, 1 pwynt am gêm gyfartal a dim pwynt am golli. Os yw nifer y pwyntiau’n gyfartal ar ddiwedd y tymor, mae’r cynghrair yn cael ei drefnu yn ôl y gwahaniaeth rhwng niferoedd y goliau – sef niferoedd y goliau mae’r timau wedi sgorio, minws y goliau yn eu herbyn
- Ar ddiwedd y tymor, mae pedwar tïm gorau’r Premiership yn mynd i’r ’Champions League’ – prif gystadleuaeth pêl–droed Ewrop – er mwyn cystadlu am y ’Champions’ Cup’
- O dan y Premiership ceir cynghreiriau eraill, sydd â 24 tïm yr un:–
- Pencampwriaeth Coca Cola
- Cynghrair 1
- Cynghrair 2
- Cynghrair 3
- Ar ddiwedd y tymor, mae tri thïm gorau Cynghrair Pencampwriaeth Coca Cola Champions yn symud i fyny i’r Premiership, ac mae’r tri thïm ar waelod y Premiership yn symud i lawr
- Y digwyddiad mwyaf ym myd pêl–droed, a’r digwyddiadau mwyaf ym myd chwaraeon yw Cwpan Byd FIFA. Gwelwch ’Cwpan y Byd: Pêl–droed’.
Pêl–droed Cymru
- Mae tïm pêl–droed Cymru’n chwarae eu gemau cartref yn Stadiwm y Mileniwm yng Nghaerdydd
- Enw cynghrair cenedlaethol Cymru yw Uwch Gynghrair Cymru, Yr enw llawn yw Uwch Gynghrair Vauxhall Masterfit Retailers Cymru
- Mae timau De Cymru yng Nghynghrair Pêl–droed Cymru, tra bo timau Gogledd a Chanolbarth Cymru yng Nghynghrair Cymru (’Cymru Alliance’) . Mae cael dyrchafiad i Uwch Gynghrair Cymru yn dibynnu ar leoliad y tïm
- Gall pencampwyr y cynghreiriau hyn gael eu dyrchafu i Gynghrair Cymru (’League of Wales’)
- Mae cystadleuaeth Cwpan Cymru y mae pob tïm yn Uwch Gynghrair Cymru ynddi
- Gall chwaraewyr o Gymru chwarae yng nghynghrair pêl–droed Lloegr
- Mae Uwch Gynghrair Cymru yn dioddef gan fod chwech o glybiau mwyaf Cymru yn chwarae yn system cynghrair Lloegr – Tïm Pêl–droed Dinas Caerdydd, Tïm Pêl–droed Dinas Abertawe, Tïm Pêl–droed Wrecsam, Tïm Pêl–droed Sir Casnewydd, Tïm Pêl–droed Merthyr Tudful a Thïm Pêl–droed Bae Colwyn
- Mae hefyd dïm pêl–droed merched cenedlaethol Cymru, Wales Women, yn ogystal â Chwpan Cymru a Chynghrair Cymru ar gyfer timoedd menywod
Chwaraewyr o Gymru
- Ganed seren pêl–droed Cymru Roan Gigs yng Nghaerdydd ac mae’n chwarae i dïm pêl–droed cenedlaethol Cymru a chlwb Manchester United yn Lloegr
- Ers 1993, mae Ryan Giggs wedi chwarae yn Uwch Gynghrair Lloegr, Cwpan y FA, Cwpan y Cynghrair, Cynghrair Pencampwyr UEFA, Cwpan Cyd–Gyfandirol a Chwpan Enillwyr Cwpan Ewropeaidd. Fe oedd Chwaraewr Ifanc y Flwyddyn (PFA) yn 1992 a 1993
- Dros yr hanner canrif diwethaf, y chwaraewyr enwocaf o Gymru yw Ian Rush, Ryan Giggs a John Charles
- Drwy gydol ei yrfa, chwaraeodd Ian Rush dros Gaer (Chester), Lerpwl, Juventus, Leeds, Newcastle a thïm pêl–droed cenedlaethol Cymru. Fe oedd yn dal y record fel sgoriwr goliau mwyaf a’r sgoriwr mwyaf dros Gymru
- Chwaraeodd y diweddar John Charles dros Abertawe, Leeds a Juventus. Ei lysenw oedd y ’Gentle Giant’, ac ni chafodd yr un cerdyn melyn neu goch ar hyd ei yrfa
A wyddoch chi...?
- Yn ystod twrnamaint cymhwyso Euro 2004, Cymru oedd y tïm cenedlaethol â’r gefnogaeth fwyaf yn Ewrop, gyda mwy na 70,000 yn dod i’r gemau ar gyfartaledd
- Chwaraeodd Tïm Pêl–droed Cenedlaethol Cymru yng Nghwpan y Byd yn 1958, gan gyrraedd y rowndiau gogynderfynol lle collon nhw i Frasil 1–0
- Mae mwy na 240 miliwn o bobl dros y byd i gyd yn chwarae pêl–droed yn rheolaidd mewn mwy na 200 o wledydd
- Mae pêl–droed yn gamp sy’n fwy na phêl–fas, pêl–fasged a phêl–droed Americanaidd at ei gilydd
Mae pêl–droed yn cael ei chwarae ar bob cyfandir - Y cymdeithasau pêl–droed hynaf yw
- Cymru – sefydlwyd yn 1875
- Lloegr – sefydlwyd yn 1863
- Yr Alban – sefydlwyd yn 1873
- Iwerddon – sefydlwyd yn 1880


