Gwybodaeth » Chwaraeon a Hamdden » Chwaraeon Awyr Agored » Marchogaeth
- Mae marchogaeth yn derm sy’n cael ei ddefnyddio i ddisgrifio’r gweithgaredd o reidio ceffyl fel hobi neu gampau cystadleuol
- Mae campau marchogaeth cystadleuol yn cynnwys dressage, neidio, dygnwch (endurance), cystadlaethau (eventing), rasio â harnais a rasio ceffylau
- Os nad ydych eisiau cystadlu, gallwch reidio ceffyl fel hobi ac fel ffordd wych o ddarganfod yr amgylchedd
- Mae pobl o bob oedran a gallu yn mwynhau marchogaeth
- Mae marchogaeth yn defnyddio llawer o egni ac mae’n dda i’ch cyhyrau. Mae awr o farchogaeth yn gyfwerth â loncian neu gêm o tenis
- A hithau’n gamp gystadleuol, mae’n rhoi cyfle i chi feistroli sgiliau nodedig
Dillad
- Mae dillad marchogaeth wedi’i ddylunio i sicrhau eich bod yn ddiogel ac yn gyfforddus
- Mae dillad marchogaeth yn cynnwys:
- Het marchogaeth, siaced, amddiffynnydd corff, jodhpurs a chlosau pen–lin (breeches)
- Coesarnau, esgidiau reidio
Ysgolion Marchogaeth
- Dylech sicrhau fod yr ysgol farchogaeth rydych yn mynd iddi yn cael ei chymeradwyo gan y British Horse Society a/neu’r Association of British Riding Schools fel eu bod yn bodloni safonau diogelwch marchogaeth cenedlaethol
- Gall marchogaeth fod yn beryglus oherwydd natur anrhagweladwy ceffylau a merlod – hyd yn oed mewn ysgol farchogaeth gymeradwy dylech sicrhau fod yr hyfforddwyr wedi cael hyfforddiant cymorth cyntaf ac yn meddu ar dystysgrif cymorth cyntaf gyfredol
- Pa un ai ydych eisiau cystadlu mewn un o’r digwyddiadau hyn neu ddysgu i reidio ceffyl yn unig, dylech ymuno ag ysgol farchogaeth
- Mae mwy na 430 o ysgolion marchogaeth yn y DU sy’n aelodau cyswllt o’r British Horse Society
- Fel arfer, mae ysgolion marchogaeth yn cynnal gwersi preifat, lled–breifat a gwersi grŵp
- Mae gwersi preifat yn golygu y cewch sesiynau ar eich pen eich hun gyda hyfforddwr
- Gall lled–breifat olygu bod dau neu dri disgybl a hyfforddwr
- Mae gwersi grŵp yn golygu bod grŵp mawr o bobl yn cael eu dysgu gan un hyfforddwr
- Mae gwersi preifat yn ddrutach ond dyma’r hyn a argymhellir i ddechreuwr
- Mae bob amser yn syniad da ymweld ag ysgol farchogaeth cyn ymuno i weld y cyfleusterau, boed hynny yn yr awyr agored neu dan do, ac edrych ar y ceffylau a’r merlod y byddwch yn eu reidio
- Os nad ydych eisiau ymuno ag ysgol farchogaeth neu ddod yn reidiwr medrus, mae modd reidio ceffyl mewn parc neu ar fferm – mae llawer o leoedd yn cynnig marchogaeth hamddenol achlysurol
- Mae’r gallu i reidio ceffyl yn ddefnyddiol ar gyfer pwrpasau ymarferol, fel gweithio gyda’r heddlu er enghraifft
- Gall pobl ag anabledd fwynhau marchogaeth hefyd – mae reidio therapiwtig a hipotherapi yn ddau fath o reidio a all fod o fudd mawr i bobl ag anableddau
Diogelwch
- Pan fyddwch yn marchogaeth ar y ffordd mae’n rhaid i chi ddilyn Rheolau’r Ffordd Fawr sy’n amlinellu’r canllawiau, a gallwch hefyd geisio cyngor gan eich hyfforddwr ymlaen llaw ynglŷn â sut i reoli’c h ceffyl ar y ffordd
- Dylech wirio’ch cyfrwy a’ch tac yn rheolaidd i sicrhau eich bod yn reidio’n ddiogel a bod eich ceffyl yn gyfforddus
- Mae’r BHS yn gweithredu Prawf Marchogaeth a Diogelwch Ffordd ac mae llawer o ysgolion marchogaeth yn cynnal diwrnodau hyfforddi mewn reidio a diogelwch ffordd
Dressage
- Mae dressage yn gamp marchogaeth sy’n profi gallu corfforol y ceffyl, ei ystwythder, sut mae’n ymateb i’w berchennog, ei gydbwysedd a’i ufudd–dod
- Caiff ei ddisgrifio fel ’gymnasteg neu ddawns ar gefn ceffyl’
- Mewn cystadlaethau dressage, mae’r ceffyl a’r reidiwr yn cael sgôr yn ôl pa mor dda maen nhw’n perfformio gyda’i gilydd
- Mae’r ceffyl yn cael sgôr ar:
- Gymhelliad, rhyddid ei symudiadau, rheoleidd–dra ei gamau
- Mae’r reidiwr yn cael sgôr ar:
- Safle, cywirdeb, effeithiolrwydd ei gymhorthion
- Ceir sawl lefel o dressage, o dressage rhagbaratoawl i dressage Grand Prix
- Ar gyfer dressage rhagbaratoawl, fel arfer mae gofyn i’r ceffyl berfformio cerdded, trotio a hanner carlam, cylchoedd a throi
- Mewn dressage Grand Prix, rhaid i’r reidiwr a’r ceffyl berfformio symudiadau mwy cymhleth fel:
- piaffe, sef troi yn yr unfan
- pirwetau hanner carlam, lle mae’r ceffyl yn troi ar ei goesau cefn tra’n hanner carlamu
Neidio
- Mae neidio sioe yn ddigwyddiad a amserir lle mae’r ceffyl a’r reidiwr yn cael eu barnu ar eu gallu i neidio dros gyfres o rwystrau mewn trefn benodol
- Perthi neu ffensys yw’r rhwystrau hyn gan amlaf
- Mae barnwyr am i gystadleuwyr gwblhau’r cwrs mor rhwydd â phosibl – os yw ceffyl yn gwrthod neidio dros rwystr neu’n taro un i lawr, caiff hyn ei farcio i lawr
- Ar y lefel uchaf, gall rhai ffensys fod mor uchel â 6 troedfedd
Dygnwch (Endurance)
- Mae dygnwch yn gamp farchogaeth gystadleuol lle mae’n rhaid i’r reidiwr a’r ceffyl reidio dros bellter hir o fewn amser penodol
- Mae’r pellter yn amrywio o 15 i 100 milltir
- Y ceffyl sy’n cwblhau’r pellter gyflymaf sy’n ennill
Rasio ceffylau
- Mae rasio ceffylau yn gamp lle mae ceffylau a’u reidwyr yn cystadlu yn erbyn ei gilydd ar drac
- Mae rasio ceffylau’n gamp boblogaidd ymhlith ymwelwyr a gall pobl osod bet ar ganlyniad ras
- RHYBUDD: Mae betio’n anghyfreithlon os ydych yn iau na 18 mlwydd oed
- Y corff llywodraethu ar gyfer rasio ceffylau ym Mhrydain yw’r British Horseracing Board
- Mae dau brif fath o rasys ceffylau – rasys y National Hunt a rasys fflat
- Mae rasys National Hunt yn golygu neidio dros rwystrau fel ffensys a ffosydd dŵr
- Mae’r rasys hyn yn cael eu cynnal yn ystod tymor y National Hunt sy’n mynd o ganol mis Hydref tan ddiwedd mis Ebrill
- Mae rasys fflat yn golygu rasio’n gyflym heb unrhyw rwystrau
- Cânt eu cynnal yn ystod y tymor Fflat o fis Mawrth tan fis Tachwedd
- Cyfarfod rasio ceffylau enwocaf y byd yw Royal Ascot
- Mae’r Cheltenham National Hunt Festival a’r Grand National yn ddigwyddiadau rasio ceffylau cenedlaethol o bwys hefyd
A wyddoch chi...?
- Mae mwy na 38,000 o aelodau o’r British Horse Society
- Dechreuodd dressage mor bell yn ôl â 430 CC, yn oes marchogaeth glasurol Gwlad Groeg
- Daeth dressage yn gamp Olympaidd yn 1912, ond dim ond swyddogion milwrol oedd yn gymwys i gystadlu tan 1952
- Mae rasio ceffylau’n un o’r campau hynaf oll – roedd yn gamp ymhlith pobl y llwythi crwydrol yng Nghanolbarth Asia
- Dechreuodd rasio ceffylau ym Mhrydain mor gynnar â’r 12fed Ganrif pan ddaeth marchogion yn ôl o’r Croesgadau gyda cheffylau Arabaidd
- Fe wnaeth ceffylau Arabaidd a cheffylau Prydeinig fridio. Canlyniad hyn yw’r ceffyl pedigri, sef y math o geffyl a ddefnyddir mewn rasio ceffylau heddiw
- Cafodd Royal Ascot ei sefydlu gan y Frenhines Anne yn 1711



3 Comments – Postiwch sylw
xmissblondie
Rhoddwyd sylw 22 mis yn ôl - 4th July 2010 - 20:59pm
hiya i got 3 horses i am lucky to have them x i got a pony called "daisy" she carnt be ridden because she is too young my 2nd horse is called "Gemini" her show name is ( Cadi Llon ) i compete on her i do show jumping my 3rd horse i am having tomorrow monday 5th July 2010 he is called "minstrel". My very 1st horse was called "Blondie" witch i sold to Green Meadows Riding school
shanzyhorsegirlxxx
Rhoddwyd sylw 13 mis yn ôl - 14th April 2011 - 13:14pm
i have 3 horses my favourite is my thouroughbred x hanoveranion bay gelding called jackpot i do showjumping on him he is 15.4 hh
ponymad9
Rhoddwyd sylw 11 mis yn ôl - 17th June 2011 - 16:16pm
hiya x i have 3 horses x ones my little games pony which i do vaulting on and he is absolutely gorgeousx his name is Bubbles. i have a dressage horse called merlin who is 14.2 and an x polo horse from argentina called candella. i do showjumping on her x i absolutely looooove horses! xx