Gwybodaeth » Chwaraeon a Hamdden » Chwaraeon Awyr Agored » Lacrós
Mae lacrós yn gêm tïm lle mae chwaraewyr yn pasio’r bêl i’w gilydd gan ddefnyddio ffon gyda rhwyd ar ei ben
Rydych yn sgorio gôl pan fydd y bêl yn cael ei saethu i mewn i rwyd y tïm arall
Mae lacrós yn gamp ddi–gyffyrddiad, ond gall chwaraewr daclo gwrthwynebwr trwy dapio ffon y gwrthwynebwr mewn ffordd reoledig gyda’i ffon nhw i ryddhau’r bêl
Mae 12 o chwaraewyr mewn tïm a 16 o chwaraewyr mewn sgwad. Mae chwaraewyr yn cyfnewid lleoedd ar y maes yn ystod y gêm, fel bod y gêm yn mynd rhagddi’n gyflym iawn
Mae lacrós yn gêm gorfforol, athletaidd a medrus iawn sy’n cael ei chwarae gan ddynion a menywod ac mae timau ar wahân ar gyfer y ddau ryw
Mae rheolau’n wahanol ar gyfer dynion a menywod. Mae lacrós dynion yn fwy corfforol, ac felly mae chwaraewyr yn gwisgo offer amddiffynnol, yn cynnwys helmet, menig a phadin o amgylch eu breichiau
Mae lacrós menywod yn ddi–gyffyrddiad, felly dyw’r chwaraewyr ddim yn gwisgo offer amddiffynnol
Mae mini–lacrós yn fersiwn o’r gêm ar gyfer dechreuwyr. Mae’n gamp ddi–gyffyrddiad ac ni all y chwaraewyr daro ffyn ei gilydd
Mae lacrós bocs/ lacrós dan do yn cael ei chwarae gyda chwe chwaraewr ar bob tïm. Mae’r rheolau’n debyg i hoci
Mae lacrós yn dod yn fwyfwy poblogaidd ar hyd a lled y byd. Mae tïm cenedlaethol gan Awstralia, Gweriniaeth Tsiec, Lloegr, Ffrainc, yr Almaen, Iwerddon, Cenedl yr Iroquois, yr Eidal, Siapan, Seland Newydd, yr Alban, De Korea, Sweden a Chymru
Lacrós POP
Mae rhai ysgolion yng Nghymru’n chwarae lacrós POP. Mae’r fersiwn hwn yn ddi–gyffyrddiad ac mae ffyn â phen plastig yn cael eu defnyddio yn hytrach na rhai pren
Mae rhai ysgolion yn cymryd rhan yn rhaglen ddatblygu lacrós pop y Welsh Lacrosse Association a thwrnamaint blynyddol y Welsh Pop Lacrosse Championships
Lacrós yn y brifysgol
Mae lacrós yn bwnc prifysgol poblogaidd, felly os nad ydych wedi cael cyfle i chwarae yn yr ysgol, fe allech ymuno â thïm yn y brifysgol


