Gwybodaeth » Chwaraeon a Hamdden » Chwaraeon Awyr Agored » Hoci
- Mae hoci yn gamp lle mae dau dïm yn cystadlu trwy basio pêl neu pyc gan ddefnyddio ffon hoci a cheisio sgorio yn rhwyd neu gôl y gwrthwynebwyr, trwy fwrw’r bêl neu’r pyc heibio’r gôl–geidwad
- Mae nifer o wahanol fathau o hoci, yn cynnwys hoci maes, hoci iâ a hoci rholer
- Mae hoci iâ a hoci maes yn cael eu chwarae gan broffesiynolwyr ac amaturiaid yn y DU
- Mae 11 o chwaraewyr mewn tïm
Hoci maes
- Mae hoci maes yn fersiwn o hoci sy’n cael ei chwarae ar grafel, glaswellt, tywod neu laswellt ffug
- Mae’n cael ei chwarae gan amlaf yng Ngorllewin Ewrop, Asia, Awstralia a Seland Newydd
- Mae ffyn hoci maes yn llai na ffyn hoci iâ – mae gan rai modern lafn bachog, ond mae gan ffyn hoci iâ lafn hir sy’n gallu bod yn fflat ar wyneb yr iâ pan fydd y ffon yn cael ei dal yn unionsyth
- Mae hoci maes yn cael ei chwarae yn y rhan fwyaf o ysgolion uwchradd ym Mhrydain ac mewn cynghreiriau ac academïau ym Mhrydain a gweddill Ewrop
Hoci yng Nghymru
- Mae llawer o dimau hoci proffesiynol i ddynion a menywod yng Nghymru, sy’n gysylltiedig ag Undeb Hoci Cymru
- Mae Adran Perfformiad Undeb Hoci Cymru yn rhedeg rhaglenni tïm ar gyfer chwaraewyr hŷn, rhai dan 21 oed, rhai dan 18 oed ac Academi Chwaraewyr Iau (dan 16 oed)
- Mae’r rhan fwyaf o ysgolion cynradd ac uwchradd yng Nghymru’n gysylltiedig ag Undeb Hoci Cymru
- Os nad oes tïm hoci yn eich ysgol, cysylltwch â’ch canolfan chwaraeon lleol i gael gwybodaeth am eich tïm hoci lleol
Hoci iâ
- Mae hoci iâ yn cael ei chwarae ar iâ, gyda phyc rwber sy’n pwyso 7–8 owns
- Mae hoci iâ yn cael ei chwarae yn bennaf yng Nghanada, Rwsia, Unol Daleithiau America a’r Hemisffer Gogleddol, yn enwedig yn Sgandinafia
- Caiff ei chwarae yn llai ym Mhrydain, er bod Cynghrair Hoci Iâ Elit Prydain, sef cynghrair gorau hoci iâ proffesiynol y DU
- Mae’r Cardiff Devils yn glwb hoci iâ cyfarwydd sy’n aelod o’r Cynghrair Elit
Hoci rholer
- Mae hoci rholer yn gêm gyflym sy’n cael ei chwarae ar esgidiau sglefrio mewn rinc dan do gyda phêl neu pyc plastig
- Mae hoci rholer yn cael ei alw’n hoci rinc yn aml
- Mae’n defnyddio esgidiau sglefrio â phedair olwyn, ac weithiau mae’w n cael ei alw’n hoci pedair olwyn (quad)
- Mae ffyn hoci rinc â siâp ’L’ ac maen nhw bron a bod yr un maint â’w r rheiny a ddefnyddir mewn hoci maes
- Mae hoci rinc yn boblogaidd yn ne Ewrop – mewn gwledydd fel Sbaen, Portiwgal a’r Eidal – a rhai gwledydd yn Ne America fel Brasil a’r Ariannin
Hoci inline
- Mae hoci inline yn fath o hoci sy’n debyg i hoci iâ – sef gêm sy’n cael ei chwarae gan ddau dïm – pedwar sglefrwyr a gôl–geidwad ar bob ochr, ar rinc sych
- Mae’r gêm yn cael ei chwarae mewn dau gyfnod 20 munud
- Mae hoci inline yn debyg i hoci rholer, ac mae’n cael ei alw’n hoci rholer yn aml, ond mae’r esgidiau sglefrio a rheolau’r gamp yn wahanol
- Cysylltwch â’r British Inline Skater Hockey Association am fwy o fanylion – ymwelwch â’r cyswllt isod i gysylltu â nhw trwy eu gwefan
A wyddoch chi...?
- Mae hoci iâ yn cael ei chwarae hefyd yn Gemau Olympaidd y Gaeaf ac mae’r rheolau ychydig yn wahanol i’r rheiny ar gyfer y Cynghrair Hoci Cenedlaethol
- Y timau sy’n cymryd rhan yng Nghynghrair Elit Hoci Iâ Prydain yw:
- Sheffield Steelers
- Manchester Phoenix
- Cardiff Devils
- London Racers
- Belfast Giants
- Edinburgh Capitals
- Newcastle Vipers


