Croeso i Swoosh! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

Gwybodaeth » Addysg » Yn Yr Ysgol 11-16 - Cyflwyniad » Hawliau yn yr Ysgol

  • Mae gennych chi hawl i addysg y wladwriaeth yn rhad ac am ddim tan eich pen-blwydd yn bedair ar bymtheg.
  • Mae gennych chi’r hawl i adael yr ysgol pan fyddwch chi’n 16 ar ddiwedd Blwyddyn 11.
  • Mae gennych chi’r hawl i gael eich trin yn deg heb wahaniaethu.
  • Ym Mlwyddyn 9, mae gennych chi’r hawl i ddewis pa bynciau rydych am eu hastudio ym Mlwyddyn 10 ac 11, yn ychwanegol at y pynciau gorfodol (Mathemateg, Saesneg a Gwyddoniaeth ).
  • Fel rheol, mae rheolau’r ysgol (darllenwch ein herthygl) yn seiliedig ar synnwyr cyffredin ac os ydych chi’n teimlo’n anhapus iawn am reol ysgol, gallech chi ofyn i gyngor yr ysgol godi’r mater (darllenwch ein herthygl ar gynghorau ysgol).
  • Nid oes gennych chi hawl dan y gyfraith i ddewis pa ysgol wladol fyddwch chi’n ei mynychu. Mae ysgolion yn gallu gwneud eu penderfyniadau eu hunain ynghylch pwy all fynychu, yn seiliedig ar ardal ddaearyddol fel rheol. Gall eich rhieni ddweud pa un fyddai’n well gennych chi, ond nid yw hynny’n golygu y byddwch chi’n mynychu honno.
  • Mae bod â hawliau yn yr ysgol hefyd yn golygu bod gennych chi gyfrifoldebau fel disgybl i ufuddhau i reolau’r ysgol (darllenwch ein herthygl ar reolau ysgol), ac i drin disgyblion eraill, athrawon a staff eraill yn deg a chyda pharch.

Rhywbeth i ddweud?

Rhaid bod wedi mewngofnodi i bostio sylwadau ar y wefan hon

Mewngofnodi neu Cofrestru.

Cymerwch ychydig o funudau i gwblhau'r arolwg hon. Bydd hyn yn helpu ni i ffeindio allan sut yr ydych chi'n defnyddio'r wefan fel ein bod ni'n gallu dal ati i'w gwella ar eich cyfer chi.