Croeso i Swoosh! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

Gwybodaeth » Addysg » Yn Yr Ysgol 11-16 - Cyflwyniad » Chwarae Triwant

  • Bod yn absennol o’r ysgol heb reswm da yw mitsio neu chwarae triwant.
  • Mae’r gyfraith yn dweud bod rhaid i bawb rhwng 5 ac 16 oed gael addysg amser llawn. Mae’n orfodol.
  • Gall llawer o absenoldeb o’r ysgol heb eglurhad gyfrif yn eich erbyn pan fyddwch yn ceisio am swyddi a chyrsiau eraill yn y dyfodol, felly mae’n bwysig iawn mynd i’r ysgol.
  • Os byddwch chi’n chwarae triwant, gellid mynd â’ch rhieni i’r llys a’u dirwyo.

Pam fod rhai pobl ifanc yn chwarae triwant?

  • Mae yna lawer o resymau pam fod pobl ifanc yn osgoi mynd i’r ysgol - dyma rai:
    • Efallai eu bod nhw’n cael anawsterau â’u gwaith ysgol ac yn poeni.
    • Mewn rhai achosion, gall fod gan berson ifanc anhawster dysgu (e.e. dyslecsia) nad yw wedi’i gydnabod ac nad ydyn nhw’n cael yr help a’r gefnogaeth sydd ei angen arnyn nhw.
    • Bydd rhai pobl ifanc yn osgoi’r ysgol oherwydd eu bod yn cael eu bwlio.
    • Mae yna hefyd gyflwr o’r enw ’ffobia ysgol’, sef gwirioneddol ofni’a r ysgol. Ni fedrwch chi benderfynu cael ffobia ysgol - byddai’n rhaid i feddyg ddweud p’un a oes gennych chi’r cyflwr yma ai peidio.
    • Dydi rhai pobl wir ddim yn hoffi’r ysgol, ond cofiwch mai dyma’r gyfraith - mae’n rhaid ichi fynychu tan y dyddiad gadael ysgol swyddogol, sef 30 Mehefin ym Mlwyddyn 11.
    • Os ydych chi wir ddim yn mwynhau’r ysgol, cofiwch nad yw’n para am byth.

Beth fydd yr ysgol yn ei wneud os fyddwch chi’n chwarae triwant?

  • Efallai bydd athro yn siarad â chi ynghylch eich presenoldeb.
  • Os ydych chi’n dal i fod yn absennol ar ôl hyn, yna mae’n debyg y bydd yr ysgol am drafod y broblem â’ch rhieni neu â’ch gwarcheidwaid.
  • Efallai bydd eich rhieni hefyd yn cael llythyr oddi wrth yr awdurdod addysg lleol (AALl), ac ymweliad gan Swyddog Lles Addysg (a elwir weithiau’n Weithiwr Cymdeithasol Addysg).
  • Mae Swyddog Lles Addysg yn gyfrifol am gadw llygad ar fyfyrwyr nad ydyn nhw’n mynd i’r ysgol yn rheolaidd. Byddan nhw’n archwilio’ch problem ac yn ceisio helpu i’w datrys, yn aml â chyngor oddi wrth athrawon a rhieni neu warcheidwaid.
  • Os nad ydych chi’n mynychu’r ysgol, gellid mynd â’ch rhieni i’r llys.

Rhywbeth i ddweud?

Rhaid bod wedi mewngofnodi i bostio sylwadau ar y wefan hon

Mewngofnodi neu Cofrestru.