Croeso i Swoosh! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

Gwybodaeth » Addysg » Yn Yr Ysgol 11-16 - Cyflwyniad » Bwlio

Yn anffodus, mae bwlio yn gyffredin iawn. Mae’n digwydd yn yr ysgol, yn y gwaith ac yn y cartref.

Beth yw bwlio?

  • Mae cael eich bwlio yn brofiad annifyr iawn. Gall godi ofn arnoch chi, eich gwneud yn ofidus a pheri ichi boeni.
  • Gall bwlio olygu llawer peth gwahanol:
    • Pobl yn galw enwau arnoch chi
    • Dweud celwydd i’ch cael chi i drwbl
    • Taro, pinsio, brathu a gwthio
    • Cymryd pethau oddi arnoch chi
    • Difrodi’ch eiddo
    • Dwyn eich arian ac eiddo arall
    • Cymryd eich ffrindiau oddi arnoch chi
    • Taenu sibrydion
    • Bygythiadau a chodi ofn
    • Cael eich anwybyddu a’ch gadael allan
    • Gwneud galwadau ffôn mud neu ddifrïol
    • Anfon negeseuon testun neu negeseuon e-bost cas atoch
    • Ysgrifennu negeseuon sarhaus ar y we
    • Dioddef ymosodiad neu gael eich pryfocio neu’ch galw’n enwau oherwydd eich crefydd neu’ch lliw
    • Dioddef ymosodiad neu gael eich pryfocio neu’ch galw’n enwau oherwydd eich rhywioldeb
    • Cael eich gorfodi i wneud pethau nad ydych chi’n gyfforddus yn eu cylch

Beth i’w wneud os ydych chi’n cael eich bwlio

  • Os ydych chi’n cael eich bwlio, dywedwch wrth rywun rydych chi’n ymddiried ynddyn nhw - ffrind, athro, eich rhieni, brawd heu chwaer hŷn neu berthynas arall. Gall fod yn anodd iawn gwneud hyn, yn enwedig os oes arnoch ofn y bwli ac os ydych yn poeni am gael eich cyhuddo o gario clecs. Ond ni all pobl eich helpu os nad ydyn nhw’n gwybod beth sy’n digwydd, felly mae’n bwysig iawn siarad â rhywun. Os na fedrwch siarad â rhywun yn yr ysgol neu gartref, ffoniwch Childline ar 0800 1111.
  • Gall cadw cofnod o ba bryd, lle, sut a gan bwy rydych chi’n cael eich bwlio fod yn ddefnyddiol pan fyddwch yn dweud wrth rywun am yr hyn sy’n digwydd ichi. Gallwch ddod o hyd i enghreifftiau o ’ ddyddiaduron bwlio’ ar wefannau Childline a’r Cynulliad Cenedlaethol isod.
  • Gallwch geisio osgoi cael eich bwlio drwy aros mewn mannau diogel yn yr ysgol amser egwyl ac amser cinio, lle mae yna ddigonedd o bobl eraill. Nid yw bwlis yn hoffi tystion.
  • Gall fod yn anodd ond ceisiwch osgoi taro’n ôl os yn bosib. Gall anafu’r person arall, hyd yn oed wrth amddiffyn eich hunan, olygu mai chi eich hun fydd mewn trwbl. Os ydych chi’n cael eich brifo yn yr ysgol, dywedwch wrth athro neu athrawes yn syth, a gofynnwch iddyn nhw gofnodi’r digwyddiad. Gwnewch yn siŵr eich bod yn dweud wrth eich rhieni.
  • Os bydd pobl yn gwneud sylwadau cas amdanoch, gallai hynny fod am eu bod nhw’n genfigennus. Un ffordd o ddelio â sylwadau yw trwy ddweud ...ie, be’ bynnag, ... neu rhywbeth tebyg, pob tro, fel eich bod chi’n dangos iddyn nhw nad yw’n cael yr effaith o beri gofid ichi yn y ffordd maen nhw’n credu

Rhywbeth i ddweud?

Rhaid bod wedi mewngofnodi i bostio sylwadau ar y wefan hon

Mewngofnodi neu Cofrestru.