Gwybodaeth » Addysg » Yn Yr Ysgol 11-16 - Cyflwyniad » Arian tra'n dysgu
Mae dysgu yn rhan bwysig o fywyd, ond tra rydych chi’n dysgu mae’n rhaid ichi feddwl am eich cyllid o hyd
Mae’r adran yma’n edrych ar faterion arian yn yr ysgol, yn y coleg, yn y brifysgol ac ar gyrsiau rhan-amser, gan gynnwys sut i gael nawdd i’ch helpu yn ariannol
Os ydych chi’n poeni am arian tra rydych chi’n dysgu, mae yna bobl y gallwch chi siarad â nhw yn eich ysgol neu’ch coleg, fel eich tiwtor dosbarth, pennaeth eich blwyddyn neu Wasanaethau Myfyrwyr. Byddan nhw’n gallu cynnig help a chyngor ichi. Peidiwch â gadael i faterion ariannol fynd yn drech na chi - mae yna bob amser rhywun sy’n gallu helpu


