Gwybodaeth » Addysg » Sgiliau Astudio » Gwaith Cartref
- Gwaith cartref yw unrhyw fath o ymarfer astudio fyddwch chi’n ei wneud ar ôl i’r gloch amser mynd adref ganu.
- Ni fydd llawer o bobl yn mwynhau gwneud gwaith cartref. Bydd y mwyafrif yn ei weld fel rhywbeth y mae’n rhaid iddyn nhw ei wneud yn hytrach na rhywbeth maen nhw eisiau ei wneud.
- Bydd athrawon yn gosod gwaith cartref fel rhan o’r cwrs rydych chi’r n ei astudio, ac mewn gwirionedd, mae wedi’i gynllunio i’ch helpu i ddysgu. Bydd peidio â gwneud eich gwaith cartref yn golygu eich bod chi’n lleihau eich gobeithion o ennill cymhwyster.
- Gall gwaith cartref fod ar sawl ffurf:
- Ysgrifennu traethodau
- Cyfrifiadau mathemategol
- Ymchwilio pynciau
- Heriau artistig
- Gwylio rhaglenni teledu addysgol
- Cwblhau gweithgareddau rhyngweithiol ar eich cyfrifiadur gartref
Faint o waith cartref ddylech chi ei wneud?
- Nid oes rheolau pendant ynglŷn â hyn, ond fel canllaw bras, gallech ddisgwyl treulio’r amser canlynol yn gwneud gwaith cartref pob nos:
- Blynyddoedd 7 ac 8 (11-13 oed) - 45-90 munud
- Blwyddyn 9 (13-14 oed) - 1-2 awr
- Blynyddoedd 10 ac 11 (14-16 oed) - 1.5-2.5 awr
Gwneud eich gwaith cartref
- Dewch o hyd i rywle tawel i weithio heb unrhyw ymyriadau.
- Mae yna farn gymysg ynghylch p’un a yw gwrando ar gerddoriaeth yn eich helpu i ganolbwyntio. Os yw’n gweithio i chi, cadwch y gerddoriaeth yn dawel yn y cefndir, fel nad yw’n tynnu’ch sylw nac yn eich temtio i ymuno â’r canu.
- Cadwch ddyddiadur gwaith cartref - fel bod gennych chi nodyn o’r hyn sydd angen ichi’i wneud a phryd sydd rhaid ei gyflwyno.
- Gwnewch yn siŵr eich bod chi’n cymryd seibiannau rheolaidd os fyddwch chi’n astudio am unrhyw hyd o amser.
- Mae cyflwyniad yn bwysig - ceisiwch ysgrifennu’n glir ac yn daclus.
- Os ydych chi’n ei chael hi’n anodd trefnu’ch amser er mwyn gwneud eich gwaith cartref, gallai chwilio am leoedd oddi cartref lle gallwch chi wneud eich gwaith fod o gymorth. Efallai fod rhai llyfrgelloedd mewn trefi mawr yn cynnal clybiau gwaith cartref. Bydd gwneud gwaith cartref mewn llyfrgell yn helpu i osgoi’r ymyriadau a all godi gartref, a bydd hefyd yn eich annog i gymryd diddordeb yn y llyfrgell a’r hyn y gall ei gynnig.
- Peidiwch â bod yn gopïwr! Peidiwch byth â chael eich temtio i gopïo pethau gair am air oddi ar y we neu o lyfrau.
- Bydd yn amlwg nad eich gwaith chi ydyw, felly rydych chi’n siŵr o gael eich dal. Gallai olygu eich bod chi’n cael marc o sero am eich gwaith. Ydi’n werth y drafferth?
Problemau â gwaith cartref
- Os nad ydych chi’n deall beth mae gofyn ichi’i wneud, GOFYNNWCH i’c h athro. Nid oes cywilydd mewn gofyn i’ch athro egluro rhywbeth ichi. Byddai’n well ganddyn nhw ichi wneud hyn na pheidio â gwneud eich gwaith cartref neu wastraffu amser yn mynd i’r afael ag ef yn y ffordd anghywir.
- Mae hefyd yn bwysig siarad â’ch athrawon os ydych chi’n teimlo eich bod yn cael gormod o waith cartref neu ddim digon o amser i’w gwblhau.
- Os oes rheswm dilys pam na fedrwch chi wneud eich gwaith cartref erbyn y diwrnod cywir, yna mae’n debyg y bydd eich athro yn gadael ichi’i gyflwyno erbyn dyddiad diweddarach. Ond os yw’n bosibl, gofynnwch iddyn nhw cyn y dyddiad cyflwyno.
- Er y dylech chi bob amser geisio gwneud eich gwaith cartref eich hun, os yw’r pwnc yn un anodd, efallai y byddwch yn gweld ei bod yn help trafod y peth â’ch rhieni neu â’ch ffrindiau yn gyntaf.


