Gwybodaeth » Addysg » Sgiliau Astudio » Arholiadau
- Ydi meddwl am arholiadau yn eich gwneud chi’n nerfus?
- Dydych chi ddim ar eich pen eich hun! Mae llawer o bobl yn credu bod arholiadau’n straen.
- Gallwch chi helpu’ch hun trwy geisio peidio â chynhyrfu a thrwy baratoi’n dda.
- Dyma rai awgrymiadau a all eich helpu chi i ymdopi â straen arholiadau!
- Darllenwch ein herthygl ar Adolygu
- Cynlluniwch ymlaen llaw - gadewch ddigonedd o amser i chi’ch hun i adolygu
- Gwnewch yn siŵr eich bod yn cael digonedd o gwsg
- Bwytewch yn dda
- Cymerwch seibiant - gwnewch ymarfer corff ac ewch am awyr iach bob dydd
- Os ydych chi’n teimlo dan straen, siaradwch â rhywun - rhieni, ffrindiau, brawd neu chwaer. Peidiwch â mygu’ch teimladau!
- Ar y diwrnod, gwnewch yn siŵr bod popeth sydd ei angen arnoch gennych chi - pinnau ysgrifennu, pensiliau, diod, hances ac ati
- Yn olaf, ewch i’r toiled cyn mynd i mewn i’r arholiad
- Dilynwch yr awgrymiadau hyn, a chyda lwc, fe wnewch chi lwyddo.
- Ond cofiwch, er bod arholiadau yn bwysig, nid holl hanfod bywyd ydyn nhw. Nid yw’n ddiwedd y byd os fyddwch chi’n methu arholiad, ac nid yw’n golygu eich bod chi’n fethiant fel person.
- Gallwch chi bob amser ailsefyll neu edrych ar opsiynau eraill ar gyfer cyrraedd eich nod - mae yna bob amser rhywbeth fedrwch chi’i wneud. Siaradwch â’ch cynghorydd gyrfa am ddewisiadau eraill os na fyddwch chi’n cael y graddau sydd eu hangen arnoch chi.