Croeso i Swoosh! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

Gwybodaeth » Addysg » Sgiliau Astudio » Adolygu

  • Mae adolygu yn golygu edrych yn ôl trwy’r gwaith rydych chi wedi’i wneud yn ystod y flwyddyn i wneud yn siŵr eich bod chi’n deall ac yn cofio pethau cyn sefyll arholiad.
  • Rydych chi wedi clywed y cyfan o’r blaen, ond mae ymdrechion adolygu yn bwysig wrth baratoi ar gyfer arholiadau a byddan nhw’n gwneud gwahaniaeth i’ch gradd derfynol.

Awgrymiadau adolygu

  • Pan fyddwch chi’n ceisio adolygu, efallai y byddwch chi’n dymuno nad oes rhaid ichi ei wneud ac y gallech chi dreulio’ch amser yn gwneud rhywbeth mwy diddorol. Ond mae yna bethau y gallwch chi eu gwneud er mwyn gwneud adolygu ychydig bach yn haws:
    • Dewch o hyd i le tawel i weithio heb unrhyw ymyriadau.
    • Os oes gennych chi’r lle, cadwch eich holl lyfrau a gwybodaeth mewn un man fel eich bod chi’n gallu dod o hyd iddyn nhw’n rhwydd.
    • Mae yna farn gymysg ynghylch p’un a yw gwrando ar gerddoriaeth yn eich helpu chi i ganolbwyntio. Os yw’n gweithio i chi, cadwch y gerddoriaeth yn dawel yn y cefndir, fel nad yw’n tynnu eich sylw ac fel nad ydych chi’n cael eich temtio i ymuno â’r canu.
    • Ceisiwch gynllunio pethau’n ofalus i wneud yn siŵr nad ydych chi’n gadael pethau tan y funud olaf.
    • Lluniwch amserlen adolygu.
    • Meddyliwch am y ffordd orau o adolygu i chi. Ydych chi’n well yn adolygu ar eich pen eich hun ynteu gyda ffrind? Ydi’n well gennych chi wneud llawer o sesiynau adolygu byr ynteu sesiynau hirach?
    • Rhannwch y gwaith yn ddarnau, yn hytrach na cheisio gwasgu popeth i mewn y noson cyn yr arholiad.
    • Gwnewch yn siŵr eich bod chi’n cymryd seibiannau rheolaidd.
    • Rhowch wobrau bach i chi’ch hun - er enghraifft adolygu am 2 awr, yna gwylio Rownd a Rownd cyn mynd yn ôl ato.
    • Gwnewch nodiadau bras ac ymarferwch ailysgrifennu’r hyn rydych chi wedi’i ddysgu yn eich geiriau eich hun. Canolbwyntiwch ar ddeall pethau yn hytrach na cheisio’u dysgu nhw fel parot.
    • Mae’n syniad da ysgrifennu nodiadau atgoffa i chi’ch hun, gwneud nodiadau ac amlygu ffeithiau pwysig pan fyddwch chi’n adolygu.
    • Ceisiwch osod eich nodiadau yn rhywle fedrwch chi eu gweld nhw. Mae ar eich oergell yn le da, neu yn eich ystafell wely, neu hyd yn oed yn yr ystafell ymolchi! Y mwyaf fyddwch chi’n edrych arnyn nhw, y mwyaf tebygol ddylech chi fod o allu cofio’r wybodaeth.
    • Ysgrifennwch grynodeb o wahanol bynciau ar gardiau neu ar ddarn o bapur A4.
    • Gallech chi hefyd roi cynnig ar recordio gwybodaeth a’i chwarae’n ôl i chi’ch hun - mae pan fyddwch chi yn y gwely yn union cyn ichi fynd i gysgu neu pan fyddwch chi’n teithio yn amseroedd da.

Rhywbeth i ddweud?

Rhaid bod wedi mewngofnodi i bostio sylwadau ar y wefan hon

Mewngofnodi neu Cofrestru.