Gwybodaeth » Addysg » Dysgu yn y Cartref » Dysgu o Bell ac E-ddysgu

- Pan fyddwch chi’n gadael yr ysgol, nid oes rhaid i addysg olygu mynd i’r coleg neu i’r brifysgol - gallwch astudio o gysur eich cartref eich hun trwy raglenni dysgu o bell ac e-ddysgu (gelwir hefyd yn gyrsiau astudio gartref neu gyrsiau drwy’r post).
- Mae dysgu o bell ac e-ddysgu yn dod yn boblogaidd iawn, gan y gallwch chi astudio o’ch cartref eich hun, ar eich cyfrifiadur personol eich hun ac yn eich amser eich hun - gan roi’r cyfle ichi gyfuno dysgu â chyfrifoldebau eraill megis gwaith a theulu mewn ffordd hyblyg.
- Bydd rhai cyrsiau’n cynnig y cyfle i gael eich hasesu (profion neu arholiadau) ac ennill cymhwyster ac mae rhai wedi’u seilio fwy ar ddiddordebau - felly gallwch chi ddysgu ar gyfer mwynhad pur neu ar gyfer cymhwyster.
- Mae cyrsiau o bell yn gweithredu trwy ddefnyddio’r system bost (byddan nhw’n anfon gwaith cwrs atoch chi, byddwch chi’n ei gwblhau a’i anfon yn ôl i’w asesu).
- Mae cyrsiau e-ddysgu neu gyrsiau ar-lein yn defnyddio’r Rhyngrwyd ac e-bost.
- Y dyddiau hyn, mae llawer o gyrsiau dysgu o bell yn defnyddio cyfuniad o ddeunyddiau ac asesu yn seiliedig ar y post a’r Rhyngrwyd.