Croeso i Swoosh! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

Gwybodaeth » Addysg » Dysgu yn y Cartref » Addysg yn y Cartref

  • Mae’r gyfraith yn dweud bod rhaid i bawb rhwng 5 ac 16 oed gael addysg amser llawn. Mae’n orfodol.
  • Ond mae’r gyfraith hefyd yn caniatáu i rieni addysgu eu plant gartref yn hytrach na’u hanfon i’r ysgol, os fyddan nhw’n gallu dangos eu bod nhw’n rhoi addysg priodol iddyn nhw. Gelwir hyn yn addysg yn y cartref neu hyfforddiant gartref.
  • Bydd rhai rhieni’n teimlo y gallan nhw roi addysg well i’w plentyn gartref. Nid yw ysgol yn gweddu i bawb.
  • Rhai o’r prif resymau dros rieni’n addysgu eu plant gartref yw problemau â bwlio, rhesymau crefyddol, salwch tymor hir, anghenion addysgol arbennig, anabledd, neu fod y plentyn wedi’i rwystro rhag mynychu’r ysgol oherwydd rhyw reswm arall, megis gwaharddiad neu broblemau ymddygiad.
  • Dylai rhieni gadw mewn cof, fodd bynnag, bod plant yn cael eu dysgu gan bobl broffesiynol hyfforddedig yn yr ysgol, y gallan nhw gael anhawster i ddarparu offer addas gartref ar gyfer pob pwnc, yn arbennig ar gyfer pynciau gwyddoniaeth a chwaraeon, a’i bod yn bwysig bod plant yn dysgu sut i ryngweithio ag eraill.
  • Os ydych chi’n iau na 16, rhaid i’ch rhieni ddweud wrth yr Awdurdod Addysg Lleol eu bod yn mynd i’ch addysgu chi gartref - allwch chi ddim rhoi’r gorau i fynd yno’n unig!

Rhywbeth i ddweud?

Rhaid bod wedi mewngofnodi i bostio sylwadau ar y wefan hon

Mewngofnodi neu Cofrestru.