Croeso i Swoosh! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

Gwybodaeth » Addysg » Addysg Ôl-16 » Chweched Dosbarth

  • Os oes gan eich ysgol chi chweched dosbarth, efallai eich bod chi’n ystyried aros ymlaen.
  • Byddwch chi mewn lle cyfarwydd gyda disgyblion ac athrawon rydych chi’n eu hadnabod eisoes.
  • Bydd disgwyl ichi gymryd mwy o gyfrifoldeb drosoch eich hun a gosod esiampl i ddisgyblion iau.
  • Fel rheol, byddwch chi’n parhau i wisgo gwisg ysgol, ond gall fod yn wahanol i’r wisg mae gweddill yr ysgol yn ei gwisgo.
  • Mae chweched dosbarth yn cynnig ystod o gyrsiau Lefel UG a Safon Uwch mewn pynciau megis Hanes, Ffrangeg a Chemeg.
  • Bydd ambell chweched dosbarth hefyd yn cynnig pynciau sy’n gysylltiedig â gwaith, megis Astudiaethau Busnes, Hamdden a Thwristiaeth neu Iechyd a Gofal Cymdeithasol.
  • Mae rhai ysgolion hefyd yn cynnig cyrsiau lefel ganolradd ac mae’r mwyafrif hefyd yn caniatáu i ddisgyblion ailsefyll TGAU.
  • Mae gan rai ysgolion drefniadau ag ysgolion neu golegau lleol eraill, felly maen nhw’n gallu cynnig dewis ehangach o gyrsiau ichi.
  • Os oes arnoch awydd astudio yn y chweched dosbarth ond nid oes un yn eich ysgol chi, gallech chi symud i ysgol arall os yw o fewn pellter teithio.

Sut fedra i ddod i wybod mwy am y Chweched Dosbarth?

  • Ewch i noson agored y chweched dosbarth
  • Darllenwch y wybod aeth am gyrsiau ym mhrosbectws y Chweched Dosbarth neu edrychwch am wybodaeth am gyrsiau ar gyrfacymru.com http://www.careerswales.com/lcd/default.asp?page=LCD_GENERAL
  • Siaradwch â’ch athrawon am y pynciau rydych chi’n ystyried eu hastudio
  • Siaradwch â’ch Cynghorydd Gyrfa
  • Siaradwch â myfyrwyr sydd eisoes yn y Chweched Dosbarth

Rhywbeth i ddweud?

Rhaid bod wedi mewngofnodi i bostio sylwadau ar y wefan hon

Mewngofnodi neu Cofrestru.