Croeso i Swoosh! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

Cwestiynau Cyffredin




Awgrymiadau ynghylch diogelwch ar-lein

Dyma rai awgrymiadau a dolennau defnyddiol i�ch helpu i aros yn ddiogel ar-lein:

  • Peidiwch fyth � chyflwyno eich gwybodaeth bersonol ar-lein
  • Peidiwch � gwneud cysylltiadau ar-lein ar safleoedd rhwydweithio cymdeithasol fel Facebook a Bebo os nad ydych yn sicr pwy yw�r unigolyn
  • Mae�n well cadw ffrindiau ar-lein, ar-lein, gall cyfarfod � dieithriaid fod yn beryglus iawn.
  • Efallai nad yw pobl yr hyn y maen nhw�n dweud y maen nhw
  • Byddwch yn ofalus wrth agor ffeiliau oddi wrth bobl nad ydych yn eu hadnabod. Gallent gynnwys firws neu gynnwys anaddas
  • Byddwch yn ofalus am beth rydych yn ei ysgrifennu ar broffiliau eich ffrindiau i bawb eu gweld. Mae�n well anfon neges breifat atynt yn dweud wrthynt ble rydych yn mynd neu bethau personol eraill
  • Mae gan y rhan fwyaf o wefannau rhwydweithio cymdeithasol fotymau ar gyfer preifatrwydd y gallwch eu newid i ofalu mai dim ond eich ffrindiau all weld eich proffil

Eich diogelwch wrth ddefnyddio CLIC

Avatar/Userpic

WWrth lwytho userpic i CLIC, cofiwch y gellir ei weld gan bawb sy�n mynd i�r safle. Argymhellwn ddefnyddio ffotograff sy�n eich cynrychioli chi yn hytrach na ffoto gwirioneddol. Mae rhai safleoedd hwyl ar-lein a all eich helpu i greu�r rhain; ewch i faceyourmanga.com neu weeworld.com. Cofiwch y gallai unrhyw ffotograffau neu fideos yr ydych yn eu postio yn gyhoeddus ar-lein gael eu cymryd, eu newid a�u rhannu heb eich caniat�d.

Enw�r defnyddiwr

Eich enw defnyddiwr yw�r enw a ddewiswch ar gyfer eich cyfrif ac fe�i gwelir drwy�r safle pan fyddwch yn postio newyddion, digwyddiadau a sylwadau. Os byddai�n well gennych aros yn ddienw, rydym yn argymell dewis enw defnyddiwr nad yw�n deillio o�ch enw chi, neu rywbeth a fyddai�n peri i bobl eraill eich adnabod. Mae�n well gan lawer o bobl ddefnyddio enw arall neu lysenw wrth bori�r we. Yn awr gyda safleoedd rhwydweithio cymdeithasol fel Beo a Facebook mor boblogaidd, mae�n dod yn haws dod o hyd i bobl ar-lein. Efallai y byddai�n well gennych gadw�r rhan hon o�ch defnydd o�r rhyngrwyd ar wah�n.

Ar y llaw arall os hoffech i bobl eich adnabod, (er enghraifft, i godi proffil eich gwaith, neu i gael clod am ysgrifennu erthygl wych), gall eich enw defnyddiwr adlewyrchu hyn. Gallwch hefyd ychwanegu dolennau i�ch tudalennau proffil a gwefannau eraill yn eich proffil.

Cyfrinair

Peidiwch fyth � rhoi eich cyfrinair CLIC (neu unrhyw un arall ar gyfer eich cyfrifon ar-lein) i unrhyw un, na�i bostio i unrhyw le. Argymhellir eich bod yn dewis cyfrinair cryf, mae hyn yn golygu cyfrinair sy�n cynnwys rhifau a symbolau yn ogystal � llythrennau, i�w wneud yn fwy anodd ei agor. Mae Microsoft yn cynnig profwr i brofi cryfder cyfrineiriau. Bydd /www.microsoft.com/protect/yourself/password/checker.mspx yn dweud wrthych ba mor ddiogel yw eich cyfrinair. Os ydych yn pryderu y gall rhywun fod �ch cyfrinair chi, neu fod gweithgaredd twyllodrus yn digwydd gan ddefnyddio eich cyfrif gallwch ail-osod eich cyfrinair o�r tu mewn i�r ardal logio i mewn, a rhybuddio aelod staff.

Proffil

Fel defnyddiwr cofrestredig o CLIC gallwch greu proffil defnyddiwr. Gellir gweld proffiliau gan ddefnyddwyr cofrestredig eraill yn unig sydd wedi logio i mewn, ac mae gennych y dewis i�w analluogi rhag cael ei weld o gwbl.

Mae eich proffil yn cynnwys yr wybodaeth ganlynol:

  • Eich enw defnyddiwr
  • Os ydych yn aelod o�r Grwp Golygyddol
  • Eich oed, ac o ba sir y deuwch
  • Pryd y gwnaethoch ymuno
  • �Amdanoch Chi� � Ardal i chi roi testun amdanoch chi eich hun
  • Dolennau eraill � dolennau i�ch gwefannau personol/proffiliau rhwydweithio cymdeithasol
  • Newyddion a gafodd eu postio yn ddiweddar � dolennau i erthyglau yr ydych wedi eu postio yn ddiweddar, os o gwbl

Mae�r cyfan uchod yn ddewisol. Gallwch lenwi cymaint neu gyn lleied ag a ddymunwch. Mae dewis hefyd i wneud eich proffil yn un preifat. Mae hyn yn golygu na fydd unrhyw un yn gallu gweld gwybodaeth amdanoch chi na darllen am eich gweithgareddau diweddaraf ar-lein.

Dywedwch wrthym ni

Byddwch yn sylwi ar fotwm �Dywedwch wrthym ni� ar bob tudalen o�r safle. Mae hwn yn tynnu sylw at yr eitem sydd i�w hadolygu gan d�m gwe CLIC. Os cawsoch eich tramgwyddo neu os ydych yn bryderus am rywbeth ar CLIC, cofiwch ddweud amdano wrthym. Er bod gennym staff yn monitro�r wefan yn aml yn ystod y dydd a bod gennym broses safoni llym yn bodoli, rydym yn dal yn meddwl ei bod yn bwysig i ddefnyddwyr allu ein rhybuddio�n rhwydd am unrhyw beth amhriodol. Os ydych yn dal yn bryderus neu os yw�n fater brys, gallwch gysylltu � th�m gwe CLIC ar 029 20 302471.

Dolennau Allanol

Mae dolen allanol yn ddolen o CLIC i dudalen gwe arall y tu allan i rwydwaith CLIC. Ni all CLIC fod yn gyfrifol am gynnwys dolennau allanol. Er y gwneir pob ymdrech i sicrhau bod cynnwys dolennau allanol sydd wedi ei bostio yn addas ac yn ddiogel, nid yw tudalennau gwe allanol yn cael eu rheoli gennym ni ac felly gallai�r cynnwys newid. Os dewch o hyd i ddolen allanol o fewn CLIC sydd ddim yn gweithio neu sydd � chynnwys anaddas dywedwch wrth y staff naill ai gan ddefnyddio�r botwm �Dywedwch wrthym ni� neu gysylltu � th�m gwe CLIC yn uniongyrchol ar 029 20 302471 neu ddefnyddio�r tocyn cymorth

Rhwydweithio cymdeithasol CLIC

Mae CLIC wedi ymrwymo i ddarparu gwybodaeth i chi yn y fformatau a�r mannau a ddymunwch. Drwy ein hymgynghoriadau a�n holiaduron, daeth yn eglur fod y rhan fwyaf ohonoch yn ddefnyddwyr gwefannau rhwydweithio cymdeithasol. Oherwydd hyn, mae gan CLIC bresenoldeb ar y rhan fwyaf o safleoedd rhwydweithio cymdeithasol poblogaidd, sy�n cael eu cynnal gan ein t�m gwe ac aelodau�r Grwp Golygyddol. Mae CLIC hefyd yn cynnig cymorth i safleoedd CLIC lleol sy�n dymuno creu proffiliau ar y safleoedd rhwydweithio cymdeithasol hyn. Ond nid yw�r rhain yn cael eu cynnal gan d�m CLIC, felly os oes gennych unrhyw ymholiadau yn eu cylch cysylltwch �ch golygydd lleol. Er gwaetha�r sylwadau gwael a wnaed amdanynt, mae gan safleoedd rhwydweithio cymdeithasol ddigon o fanteision unigryw o hyd (heblaw am fod yn rhoi cyfle i chi ddweud wrth y byd beth a gawsoch i frecwast). Mae�r rhain yn cynnwys rhoi technoleg, a sgiliau creadigol a chyfathrebu i ni yn ogystal �n hannog i fod yn agored i syniadau newydd neu amrywiol.

YouTube

Mae sianel YouTube CLIC yn dangos yr holl fideos yr ydym wedi eu creu a rhai rydych chi wedi eu creu (rydym yn rhoi eich fideos ar YouTube os ydych wedi rhoi caniat�d i ni yn unig). Rydym hefyd yn defnyddio YouTube i greu rhestrau o fideos y credwch y gallech fod � diddordeb ynddynt. Gwneir y dasg hon hefyd gan aelodau o�r Grwp Golygyddol o bryd i�w gilydd. Cyn yr ychwanegir unrhyw fideo at ein sianel neu cyn iddo gael ei gysylltu � CLIC mewn unrhyw fodd, fe�i gwylir yn llawn ac archwilir y fideo i sicrhau nad oes cynnwys anaddas ynddo. Yn anffodus ni all CLIC fod yn gyfrifol am y fideos hyn pe baent yn cael eu hail-olygu ar �l inni eu harchwilio i ddechrau. Ond rydym yn gofalu ein bod yn ychwanegu fideos o ffynonellau dibynadwy yn unig ac rydym bob amser yn anelu at gadw llygad manwl ar y newidiadau a wneir. Ni allwn fod yn gyfrifol am unrhyw gynnwys arall ar YouTube, fel �fideos cysylltiedig� felly rydym yn gofyn i chi fod yn ymwybodol o hyn, a chydymffurfio ag amodau a thelerau YouTube.

Facebook/Bebo/Myspace

Gallwch ryngweithio gyda�n proffiliau ar y safleoedd canlynol drwy �ddod yn ffrind i mi� neu ymuno �n grwpiau. Nid yw CLIC yn cymryd unrhyw gyfrifoldeb am unrhyw gynnwys a gyhoeddir ar y gwefannau hyn na chafodd ei greu yn uniongyrchol gennym ni.