Croeso i Swoosh! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

Sut y gall pobl ifanc gymryd rhan yn Swoosh?

Gall unrhyw un sydd � syniad, barn, profiad, erthygl neu ffotograff yr hoffent ei rannu gyda phobl ifanc eraill gyfrannu at Swoosh. Y cyfan sydd raid i chi ei wneud yw cofrestru ar-lein a dilyn y cyfarwyddiadau syml am sut i gyflwyno eich cynnwys eich hun. Mae bod yn aelod cofrestredig yn caniat�u i chi hefyd roi sylwadau am erthyglau eraill.

Grwp Golygyddol Swoosh

Rhan o brosiect Swoosh yw bod � Grwp Golygyddol Swoosh o bobl ifanc sydd � diddordeb, a all lywio�r wefan a�r cynnwys. Mae�r grwp yn cyfarfod i drafod y modd y mae�r wefan yn gweithredu ac mae�r bobl ifanc yn gweithredu fel gohebwyr, gan ennill sgiliau a phrofiad wrth fynd ymlaen.

Os ydych yn ifanc ac yn teimlo y gallwch gyfrannu ac yr hoffech gymryd rhan ac ymuno �r grwp, cysylltwch � Golygydd Swoosh, Dominique LeSauteur, ar y ff�n ar 01446 733622 (est 14) neu drwy e-bost yn dominique@swoosh.me.uk

Mae Swoosh yn wefan leol sy�n cynnig gwybodaeth, newyddion a chyngor i bobl ifanc ym mhob man. Cefnogir y wefan newydd hon gan Lywodraeth Cynulliad Cymru ac mae wedi ei chysylltu � gwefan genedlaethol newydd i bobl ifanc o�r enw CLIC.