LLUNIO DYFODOL POSITIF 2011
SEIBERFYWYD ...
Gall y we fod yn lle gwych i ni gysylltu â’r byd. Gallwn ni deithio i fannau anghysbell ar glic botwm o gysur ein hystafelloedd gwely neu’n ffonau. Rydyn ni i gyd yn dwlu ar ddefnyddio gwefannau fel Facebook, Twitter, MSN i sgwrsio gyda theulu a ffrindiau, i rannu clecs a lanlwytho lluniau’r penwythnos gwych yna. Dylai mynd arlein fod yn hwyl ac yn ddiogel, ond ambell waith mae pethau’n mynd o chwith, yn mynd yn rhy bell a gall clecs droi’n gyflym i fod yn fwlio neu’n gam-drin.
Mae Seiberfwlio yn broblem a wynebir gan bobl ifanc sy’n tyfu, ac mae gwybod beth i’w wneud ac at bwy i droi yn bwysig i sicrhau dy fod yn cadw’n ddiogel ac yn wynebu’r rhai a all fod yn dy fwlio di neu rhywun rwyt ti’n ei nabod arlein. Gall seiberfwlio fod yn sawl peth gan gynnwys, Ebost, negeseuon gwib, ystafelloedd sgwrsio, rhwydweithio cymdeithasol a ffonau symudol.
Mae’n bosib y byddi’n cwrdd â rhywun mewn ystafell sgwrsio arlein nad sydd y person maen nhw’n dweud y maent. Gwna’n siwr dy fod yn ddiogel arlein a’th fod yn gwybod ble i fynd os oes byth angen cymorth neu gyngor arnot ti. Paid a dod yn rhan o’r broblem, bydd yn rhan o’r ateb.
Mae’r ‘SEIBERFYWYD’ yn rhan o’r ymgyrch wybodaeth ieuenctid ‘Llunio Dyfodol Positif’ sy’n cael ei chynnal yma ar Swoosh hyd fis Mehefin 2012. Mae’r ymgyrch ‘SEIBERFYWYD’ yn dy ddangos sut mae aros yn ddiogel arlein, sut i gofnodi cam-drin a bwlio a ble i fynd am gefnogaeth.
Beth sydd ei angen i fod yn seiber ddiogel?
Mae aros yn ddiogel arlein yn golygu bod yn glyfar; gwybod beth sy’n iawn, beth sy’n anghywir a beth i’w wneud pan ddigwydd rhywbeth gwael. Dyma 10 awgrym uchaf Swoosh i gadw’n ddiogel arlein…
10 Awgrym Uchaf
- Cadw dy gyfrineiriau yn ddiogel a phaid byth a’u rhannu. Newidia nhw’n aml
- Paid byth â rhannu gwybodaeth bersonol fel: rhif ffôn, cyfeiriad, manylion banc ayb
- Cadw dy broffil rhwydwaith cymdeithasol yn breifat a derbynia ffrindiau rwyt ti’n eu nabod yn unig
- Meddylia’n ofalus am bob post a neges rwyt ti’n eu rhoi arlein. Ydyn nhw’n bethau y byddi di’n difaru neu â’r potensial i frifo rhywun rwyt ti’n eu nabod?
- Paid â rhannu lluniau a fideo ohonot ti dy hun gyda phobl dwyt ti ddim yn eu hadnabod a phaid byth â rhannu lluniau neu fideo pryfoclyd. Unwaith iddynt gael eu lanlwytho mae’n hawdd iawn colli rheolaeth arnynt
- Cofnoda Bwlio a cham-drin bob tro. Dwed wrth rhiant, ffrind, gweithiwr ieuenctid neu cofnoda’r gŵyn gyda CEOP: www.ceop.police.uk
- Paid byth â chytuno i gwrdd â ffrind arlein yn bersonol. Os wyt ti’n gwbl sicr bod y ffrind yn ddidwyll, cer â rhiant neu warcheidwad gyda ti
- Diogela dy ffôn symudol gyda chyfrinair neu god, fel taw dim ond ti sydd â mynediad iddo. Bydd yn ofalus gyda phwy rwyt ti’n rhannu dy rif a chofia y gall ffonau gyda GPS ac APPS ddatgelu dy leoliad
- Cofia allgofnodi dy broffil rhwydwaith cymdeithasol wrth i ti ddiwryn y sesiwn i ben, yn enwedig felly os wyt ti’n defnyddio cyfrifiaduron mewn llefydd cyhoeddus fel ysgolion a llyfrgelloedd
- Syrffia’n ddiogel – defnyddia gwefannau sy’n gyfreithlon, yn ddiogel ac yn oed addas yn unig
Taith ymgyrch ‘SEIBERFYWYD’
Gelli di gymryd rhan yn y daith ymgrych a gweithdai mewn ysgolion a chanolfannau ieuenctid sy’n cymryd rhan:
Diwrnodau Gweithdy:
Ysgol Ashgrove – Dydd Mercher Mawrth 14eg 2012
Coleg Beechwood – Dydd Mawrth, Mawrth 20fed 2012
Gweithdai gyda’r Nos:
Canolfan Ieuenctid Llanilltud Fawr – Nos Fercher Chwefror 22ain 2012
Canolfan Ieuenctid Area 41, Y Barri: Nos Fercher Chwefror 29ain 2012
Cystadleuthau
Mae Swoosh, www.swoosh.me.uk, dy angen di i gymryd rhan! Rydyn ni eisiau i ti lanlwytho dy brofiadau, erthyglau, straeon yma ar Swoosh. Gall fod yn erthygl ysgrifenedig, cerdd, darn o gelf neu lun – y mwya creadigol y gorau, gelli di hyd yn oed lanlwytho fideo rwyt ti’n meddwl sydd o gymorth!
I gymryd rhan yng nghystadleuthau ymgyrch ‘SEIBERFYWYD’ lanlwytha dy gais i Swoosh. Rhaid iddo fe fod am y byd seiber, technoleg fodern, diogelwch rhwydweithio cymdeithasol, seiberfwlio ayb. Caiff yr enillydd am lanlwythiad sy’n ysbrydoli fwyaf ei ddewis gan banel beirniadu!
Y wobr am y Lanlwythiad sy’n Ysbrydoli Fwyaf yw llond bag o wobrau, talebion a danteithion i ti eu gwario neu rannu â ffrind, neu eu cadw i gyd i ti dy dy hun!
Dyddiad cau y cystadleuthau Ymgyrch ‘BYWYD’ yw Mawrth 31ain 2012.
Sefydliadau Defnyddiol - SEIBERFYWYD: Diogelwch Arlein a Bwlio
Gwybod y We
www.knowthenet.org.uk
Gwefan cyffredinol am y we a diogelwch arlein.
WISE KIDS
www.wisekids.org.uk
Hyrwyddo defnydd diogel o’r we i bobl ifanc.
Kidscape
www.kidscape.org.uk
Gwybdoaeth adnoddau a chyngor ar fwlio a seiberfwlio.
Cyber Bullying UK
www.cyberbullying.co.uk
Rhan o www.bullying.co.uk, y gwefan cenedlaethol gwrth-fwlio.
Cyber Mentors
www.cybermentors.org.uk
Gwefan gan ac i bobl ifanc, yn helpu a chefnogi ei gilydd arlein.
Meic
Ffôn: 080880 23456 Tecst: 84001
www.meiccymru.org
Cyngor cyfrinachol rhad ac am ddim ar y ffôn neu arlein i bobl ifanc 0-25 oed.
CLIConline
www.cliconline.co.uk
Gwefan cenedlaethol i bobl ifanc rhwng 11-25 oed gyda gwybodaeth am deuluoedd a pherthynas, gan gynnwys iechyd rhywiol. Hefyd rhestr o sefydliadau defnyddiol.
Swoosh
www.swoosh.me.uk
Rhan o rwydwaith CLICarlein, ym Mro Morgannwg, gydag adrannau gwybodaeth a rhestr o sefydliadau defnyddiol.

