Croeso i Swoosh! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

Bws Ieuenctid

Mae Vibe Experience yn gweithio gyda Gwasanaeth Ieuenctid Bro Morgannwg i ddod â "CHANOLFAN IEUENCTID AR OLWYNION!" i chi. Bydd y Bws Ieuenctid yn darparu llawer o offer aml-gyfrwng a llawer o weithgareddau hwyliog i chi gymryd rhan ynddynt.

OFFER DIDDOROL..

Mae cyfrifiaduron, y rhyngrwyd, consols gemau, ardal ymlacio, sgriniau plasma, deciau cerddoriaeth a chymysgu a goleuadau disgo yn ddim ond rhai o’r pethau sydd ar y bws!

Gall y bws barcio mewn llawer o leoliadau gwahanol, yn arbennig mewn ardaloedd lle nad oes unrhyw ganolfan ieuenctid arall na gweithgareddau i bobl ifanc.

Bydd tiwtoriaid proffesiynol yn cynnal gweithdai creadigol, aml-gyfrwng, cerddorol a llawer mwy!

Bydd gweithwyr ieuenctid cymwys ar gael i roi gwybodaeth i chi ac i gynnig gweithgareddau yn ymwneud â phroblemau ieuenctid, fel iechyd rhywiol, bwyta�n iach, cam-ddefnyddio sylweddau a mwy. Bydd y bws yn cyrraedd y strydoedd yn eich ymyl chi yn 2010!

For more information about the bus please call Vibe Experience on: 01446 733622, choose option 2.

Vibe Experience, 41 Holton Road, Y Barri
Bro Morgannwg, CF63 4HB
01446 733622
info@vibeexperience.com

Youth Bus