Beth yw Swoosh?
Mae Swoosh yn wefan leol sy'n cynnig gwybodaeth, newyddion a chyngor i bobl ifanc ym mhob man. Cefnogir y wefan newydd hon gan Lywodraeth Cynulliad Cymru ac mae wedi ei chysylltu â gwefan genedlaethol newydd i bobl ifanc o'r enw CLIC.
Ar gyfer pwy y mae Swoosh?
Ceir 22,000 o bobl ifanc, yn fras, rhwng 11-25 yn byw ym Mro Morgannwg. Mae Swoosh yn cynnig mynediad at gyngor a gwybodaeth i'r holl bobl ifanc yn y rhan hon o Gymru.
Dywedwch fwy wrthyf...
Mae Swoosh yn rhoi gwybodaeth i bobl ifanc am ystod eang o bynciau, gwasanaethau, problemau a ble i gael cymorth. Ceir cyfarwyddiadur ar-lein o'r holl sefydliadau ym Mro Morgannwg sy'n cynnig gweithgareddau a gwasanaethau i bobl ifanc. Mae'r rhain yn cynnwys clybiau chwaraeon a gweithgareddau hamdden, canolfannau ieuenctid a grwpiau gwirfoddol, gwasanaethau cymdeithasol ac iechyd a gyrfaoedd ac addysg a llawer mwy!
Mae gwefan Swoosh yn rhoi cyfle i bobl ifanc a'r sefydliadau sy'n gweithio gyda nhw i lwytho erthyglau, lluniau, fideos, dyluniadau a rhoi cyhoeddusrwydd i ddigwyddiadau a gweithgareddau ym Mro Morgannwg. Mae Swoosh hefyd yn gweithio gyda phobl ifanc ar grwpiau golygyddol pobl ifanc i arwain datblygiad y wefan a llwytho cynnwys arni.
Beth sydd mor wych am Swoosh?
- Caiff cynnwys Swoosh ei greu, ei ysgrifennu a'i ddiweddaru gan bobl ifanc a'r sefydliadau sy'n cefnogi'r gweithgareddau
- Mae Swoosh yn caniat u i bobl ifanc gael llais ac mae'n hyrwyddo cyfnewid barn a phrofiadau
- Mae cynnwys a gwybodaeth Swoosh yn arbennig ar gyfer ardal leol Bro Morgannwg
- Mae Swoosh yn dangos ac yn dathlu cyflawniadau pobl ifanc yn ogystal â syniadau creadigol a sgiliau h.y. dylunio, ysgrifennu creadigol, fideo a ffotograffiaeth
- Mae Swoosh yn hyrwyddo cyfranogiad a chynhwysiant drwy grwpiau golygyddol a arweinir gan ieuenctid ar lefel leol a chenedlaethol
- Mae Swoosh yn gweithio'n agos gyda rhwydweithiau ar draws Cymru i rannu gwybodaeth, adnoddau a phrosiectau gyda phobl ifanc
A yw Swoosh yn ddiogel ar-lein i bobl ifanc?
- YDY!
- Caiff erthyglau, digwyddiadau, ffotograffau, fideos ac ati i gyd eu sgrinio gan Olygydd Swoosh cyn iddynt gael eu llwytho i'r Wefan.
- Dim ond cynnwys addas, perthnasol a gymeradwyir i fynd ar-lein.
- Ni ddangosir unrhyw fanylion cyswllt ar gyfer pobl ifanc/aelodau ar Swoosh dim ond yr enw defnyddiwr o'u dewis
- Os caiff pobl ifanc eu tramgwyddo neu os ydynt yn bryderus am rywbeth ar Swoosh gallant gofnodi hynny wrthym. Bydd staff yn monitro'r wefan yn aml yn ystod y dydd ac mae gennym broses safoni lem yn ei lle.
- Ceir tudalen "Gwybodaeth am Ddiogelwch" ar Swoosh gyda gwybodaeth fanwl am ddiogelwch y safle a gwybodaeth bellach am ddiogelwch ar-lein.

